


Cylchdaith rithiol o Golegau Amaethyddol yng Nghymru a chipolwg ar busnes Garddwriaeth yng Nghymru
Mae yng Nghymru saith o Golegau Amaethyddol sy'n darparu cyrsiau addysg bellach rhan-amser a llawn amser ar draws amrediad o feysydd pwnc sy'n cynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth a rheoli amgylcheddol, blodeuwriaeth, ceffylau, gofal anifeiliaid a llawer mwy.
Bydd llawer o bynciau ar gael o lefel 1 i lefel 3 yn cynnwys opsiynau dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys prentisiaethau. Bydd y colegau'n rhoi cylchdaith dywysedig i chi o'u cyfleusterau a'r cyrsiau a gynigir a chipolwg ar y cyfleoedd gyrfa sy'n dilyn.
Bydd tîm garddwriaeth Tyfu Cymru Lantra yn amlinellu sut y mae hyfforddiant a datblygu wrth wraidd rhai o brif fusnesau garddwriaethol Cymru.


