



Sgwrs gyda Ceri Gillett a Hayley Hanson
Beth mae’r argyfwng Covid-19 wedi’i olygu i fusnesau sy’n cael eu harwain gan ferched ar draws Cymru wledig?
Ym mis Mehefin, rhybuddiodd Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod gofal plant a gwaith tŷ wedi disgyn llawer mwy ar famau nag ar dadau, gyda risg i ferched wrth gamu ymlaen yn eu gwaith a’u gyrfa. Dywedodd Chwarae Teg, mewn datganiad ar y cyd gyda Chymdeithas Fawcett, fod yr argyfwng yn “troi’r cloc yn ôl ar gydraddoldeb rhywiol”.
Daw hyn yn erbyn cefnlen o dirwedd busnes a oedd eisoes yn anwastad i fusnesau sy’n cael eu harwain gan ferched. Fe wnaeth Adolygiad Rose, a ysgrifennwyd gan Alison Rose, Prif Swyddog Gweithredol NatWest, a’i gyhoeddi yn 2019, ganfod y gallai hyd at £250 biliwn gael ei ychwanegu at economi’r DU petai merched yn cychwyn ac yn cyrraedd copa busnesau newydd ar yr un raddfa â dynion.
Mae Gemma Collins, Swyddog Galluogi Twf Busnes NatWest Caerdydd a’r Fro, yn sgwrsio â’r perchnogion busnes Ceri Gillett a Hayley Hanson am eu profiadau nhw o’r argyfwng, a sut ydym yn symud ymlaen o’r fan hyn.


