


Hi Sy'n Mentro … Sy'n Ffermio
Mae'r gynhadledd 'Hi Sy'n Mentro …Sy'n Ffermio' yn dychwelyd fel rhan o galendr Sioe Frenhinol Cymru NFU Cymru eleni gyda rhestr ardderchog arall o gyfranogwyr. Gwahoddir pawb i ymuno â'n digwyddiad rhithiol, gyda thri siaradwr dan gadeiryddiaeth Delyth Robinson, aelod o Grwp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru.
Rydym wrth ein bodd o gael Tracey Roan yn ymuno â ni, yn dilyn ymddangosiad ei theulu ar Gyfres 2 o This Farming Life ar BBC2. Mae gyda Caroline Mason, Pennaeth Amaethyddiaeth yn y Co-op, dreftadaeth ffermio drawiadol wedi'i hangori yng ngwreiddiau gwledig ei theulu yn Swydd Amwythig, a heddiw, yn 37 oed yn unig, mae hi'n goruchwylio strategaeth amaethyddol y manwerthwr cymunedol.
Mae Abi Kay yn brif ohebydd i'r Farmers Guardian, ble mae hi'n arwain y sylw y mae'r cylchgrawn yn ei roi i wleidyddiaeth ac yn cyd-gyflwyno'r podlediad Ploughing Through Brexit. 'Dyw Abi byth yn gwingo rhag stori ffermio dda a mynd â syniadau ffermwyr ymlaen. Cymerwch ran trwy gydol y dydd drwy ein tagio ni yn eich lluniau nwyddau #SheWhoDaresFarms#HiSynMentroSynFfermio ar twitter @NFU Cymru


