dream bigger cym 2020-07-10NWWelshDreamBiggerEventBriteBanner1SRV02.00 SIWAN REES-CYM

Anelu’n Uwch: Herio Merched i Feddwl yn Wahanol

Yn ystod y sgwrs NatWest Dream Bigger hon, byddwch yn clywed am raglen sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd trosglwyddadwy mewn merched 16-18 mlwydd oed ar draws Cymru.

Mae’r rhaglen Dream Bigger wedi’i hanelu at greu cenhedlaeth o ferched cryf, grymusedig y dyfodol drwy ysbrydoli merched ifanc i ddeall eu potensial ac i ymdrechu i gyflawni rhywbeth yn eu maes diddordeb dewisedig.

Y nod yw ysgogi hyder yn barod ar gyfer byd gwaith y dyfodol ac effeithio ar y ganran o ferched sy’n bwriadu cychwyn busnes.

Ymunwch â Siwan Rees, Swyddog Datblygu Entrepreneuriaeth NatWest yng Nghymru, a Mandy Powell, The Goodwash Company, i gael gwybod sut mae’r cyfranogwyr yn y rhaglen Dream Bigger, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yn gallu:

  • Ehangu gorwelion gyrfa a datblygu ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth fel gyrfa bosibl yn y dyfodol
  • Datblygu sgiliau a galluoedd y dyfodol – gan arwain at fwy o hyder a chadernid
  • Pontio’r bwlch rhwng addysg a’r gweithle
  • Datblygu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a hunanfyfyrdod ohonynt eu hunain ac eraill

Mae trafodaeth trwy gyfrwng y Saesneg ar gael o “Dream Bigger: Challenging Girls to Think Differently”. Mae’r digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg yn cynnwys Mandy Powell o The Goodwash Company, ac mae’r digwyddiad trwy gyfrwng Cymraeg yn cynnwys Megan Coates o Pethau.

Headshot - Megan Coates-cym

BVD_RoyalWelsh_EventPage