Sesiwn yn holi Mam a Merch – Margiad a Catrin Davies o ochrau Cerrigydrudion. Margiad wedi gwneud amryw swyddi drwy ei bywyd ond mae ffermio yn agos at ei chalon. Catrin y ferch bellach wedi mynd mewn i fyd Milfeddyg.
Bydd Deanna Jones (Hybu Cig Cymru) yn manylu ar sut y mae geneteg, iechyd a thrin yn gallu dylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion o bersbectif gwyddor cig a bydd Tim Rowe (Celtic Pride) yn rhoi barn y prosesydd am effaith perfformiad gwael yn y meysydd hyn ar anifeiliaid a gyflwynir i’w lladd.
Gyda’r Chweched Senedd bellach wedi’i sefydlu, mae hwn yn gyfle i gwrdd ag aelodau newydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Ymunwch â’r Aelodau a nifer o randdeiliaid wrth iddynt drafod meysydd blaenoriaeth i’r dyfodol a dewch i ganfod sut y gallwch chi ddweud eich dweud gydag ymgynghoriad sy’n lansio cyn bo hir.
Yn y seminar hon archwiliwn y gwersi y mae’r pandemig wedi’u dysgu inni, trafodwn ba fesurau sydd angen eu rhoi yn eu lle i ddiogelu cynhyrchwyr bwyd a chwsmeriaid ac archwiliwn a yw strategaethau lleol gyda rhagolwg byd-ean yn allweddol i ddiogelu’r cyflenwad bwyd.
Ymunwch â Dr Wynne Davies (M.B.E., FRAgS) wrth iddo gael ei gyfweld gan ei fab David a dwyn i gof hanes, cymeriadau ac enillwyr tlws nodedig ‘Tom and Sprightly’ yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru