

DYDD LLUN
Ymunwch â'r trafodaethau busnes canlynol sy'n digwydd heddiw yn ystod ein sioe rithiol


Derbyniad Brecwast Rhithiol HCC gyda’r Gweinidog Lesley Griffiths a’n Cadeirydd Catherine Smith
Mae brecwast Hybu Cig Cymru yn uchafbwynt o fore dydd Llun yn y sioe. Er na fedrwn ni weini’r selsig a’r cytledi gorau o Gymru eleni, ymunwch gyda ni i glywed gan ein Cadeirydd Catherine Smith a’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, i gael y diweddaraf am y diwydiant amaeth a bwyd a’r rhagolygon am y flwyddyn sydd i ddod.

SIOE FRENHINOL RITHIOL CFFI CYMRU
Croeso mawr i chi ymuno â ni i rannu eich atgofion o gystadlu yn y gorffennol ac i wylio rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy’r wythnos.

Canlyniadau Cystadlaethau Sioe Rhithiol Merched y Wawr
Cynhaliwyd 5 cystadleuaeth yn ein Sioe Rithiol eleni.

Cysylltedd Digidol
Trafodaeth panel ar gysylltedd digidol yng Nghymru wledig.
NFWI gyda Wales YFC, NFU Cymru, FUW & CLA

Mynd i’r afael â’r Argyfwng Tai Gwledig
Yn y seminar hwn byddwn yn clywed am y problemau a’r profiadau mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn trafod atebion sydd ag iddynt fwy o ddychymyg na dim ond adeiladu mwy o dai.

Derbyniad Materion Gwledig Rhithwir Gyda Lesley Griffiths
Ymunwch ag aelodau Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru wrth iddynt groesawu Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru i drafod yr hyn sydd o bwys i’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr bwyd.

Lleihau ôl traed carbon ar eich fferm – sut mae eraill yn cyflawni hyn?
Cyswllt Ffermio
Lleihau ôl troed carbon eich fferm
