


2030: Economi Gwyrdd Cymru
Mae Cymru wedi dewis bod yn fegwn cynaliadwyedd ac i wneud ynni adnewyddadwy yn gonglfaen ei hunaniaeth. Wrth wneud hynny, bydd Cymru'n derbyn mwy o fudd economaidd, yn tyfu perchenogaeth leol a chymunedol ar economi Cymru ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Wrth i ffynonellau ynni barhau i ddadgarboneiddio, yr her nesaf yw sicrhau bod diwydiannau a oedd gynt yn ddibynnol ar danwydd ffosil yn gallu trosglwyddo i'r ffynonellau ynni newydd hyn.
Mae grŵp o randdeiliaid allweddol yn cyfarfod i drafod sut, drwy weithio gyda'i gilydd, y bydd Cymru'n gallu ac yn gorfod llunio pennod lanach, wyrddach yn ei siwrnai ddiwydiannol.
Bydd y sesiwn yn trafod paham y mae ynni cynaliadwy yn hollbwysig i economi Cymru, sut y gall Cymru wella ei heffeithlonrwydd ynni a sut y gall busnesau Cymreig, sefydliadau lleol a chymunedol gael eu cefnogi i fanteisio ar (ac arwain) y symudiad at dechnoleg ynni craffach a thrawsnewidiad busnes.


